1 Macabeaid 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Jwdas am fri'r Rhufeiniaid, eu bod yn gadarn a chryf, yn ffafriol tuag at bawb a ddôi i gynghrair â hwy, ac yn addunedu eu cyfeillgarwch i bwy bynnag a ymunai â hwy.

2. Ie, cadarn a chryf oeddent. Mynegwyd iddo am eu rhyfeloedd: y gwrhydri a ddangosent ymhlith y Galiaid—iddynt eu concro a'u gorfodi i dalu treth;

3. a'r hyn a wnaethant yn Sbaen trwy feddiannu'r mwyngloddiau arian ac aur oedd yno—

4. yr oeddent, trwy eu penderfyniad a'u dyfalbarhad, wedi concro'r holl wlad, er bod y lle ymhell iawn oddi wrthynt. Felly hefyd y brenhinoedd a oedd wedi dod o eithaf y ddaear i ymosod arnynt—yr oeddent wedi eu distrywio a'u taro â dinistr enfawr. Talai'r gweddill dreth flynyddol iddynt.

1 Macabeaid 8