1 Macabeaid 7:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.

10. Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.

11. Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.

12. Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.

13. Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;

14. oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”

15. A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”

16. Wedi ennill eu hymddiriedaeth, cymerodd ef drigain gŵr ohonynt a'u lladd mewn un diwrnod, yn unol â gair yr Ysgrythur:

17. “Cnawd dy saint a'u gwaed,fe'u taenaist o amgylch Jerwsalem,ac nid oedd neb i'w claddu.”

18. Dechreuodd yr holl bobl eu hofni ac arswydo rhagddynt, gan ddweud, “Nid oes na gwirionedd na barn ganddynt, oherwydd y maent wedi torri'r cytundeb a'r llw a dyngasant.”

1 Macabeaid 7