1 Macabeaid 7:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.

10. Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.

11. Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.

12. Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.

13. Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;

14. oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”

15. A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”

1 Macabeaid 7