7. Gan hynny anfon yn awr ŵr yr wyt yn ymddiried ynddo, i fynd a gweld yr holl ddifrod a wnaeth Jwdas i ni ac i diriogaeth y brenin, a boed iddo'u cosbi hwy a phawb sydd yn eu helpu.”
8. Dewisodd y brenin Bacchides, un o'i Gyfeillion, a oedd yn llywodraethu talaith Tu-hwnt-i'r-afon, gŵr mawr yn y deyrnas a theyrngar i'r brenin.
9. Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.
10. Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.
11. Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.
12. Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.
13. Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;
14. oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”
15. A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”