1 Macabeaid 7:39-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Aeth Nicanor allan o Jerwsalem a gwersyllu yn Beth-horon, ac ymgynullodd byddin Syria ato.

40. Gwersyllodd Jwdas yn Adasa gyda thair mil o wŷr.

41. Yna gweddïodd Jwdas fel hyn: “Pan gablodd y negeswyr a anfonodd y brenin, aeth dy angel i'r frwydr a tharo cant wyth deg a phump o filoedd o'r Asyriaid.

42. Maluria yn yr un modd y fyddin hon o'n blaen heddiw, a gwybydded pawb i Nicanor lefaru'n enllibus am dy gysegr, a barna ef yn ôl ei ddrygioni.”

43. Daeth y byddinoedd ynghyd i frwydr ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar. Maluriwyd byddin Nicanor, ac ef ei hun oedd y cyntaf i syrthio yn y frwydr.

44. Pan welodd ei fyddin fod Nicanor wedi syrthio, taflasant eu harfau i ffwrdd a ffoi.

45. Ond erlidiodd yr Iddewon hwy daith diwrnod o Adasa hyd at Gasara, gan seinio'r alwad i'r gad ar eu hutgyrn o'r tu ôl iddynt.

46. Daeth gwŷr allan o holl bentrefi Jwdea yn y cylch, ac amgylchynu'r gelyn, a'u troi'n ôl at eu hymlidwyr. Syrthiodd pawb gan gleddyf, ac ni adawyd cymaint ag un ohonynt.

47. Cymerodd yr Iddewon yr ysbail a'r anrhaith, a thorasant i ffwrdd ben Nicanor a'i law dde, honno yr oedd wedi ei hestyn allan mor falch, a'u dwyn a'u harddangos ar gyrion Jerwsalem.

48. Gorfoleddodd y bobl yn fawr, a dathlu'r dydd hwnnw yn ddydd o orfoledd mawr.

49. Ordeiniasant gadw'r dydd hwnnw yn ŵyl flynyddol ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar.

50. Felly cafodd gwlad Jwda heddwch dros ychydig ddyddiau.

1 Macabeaid 7