37. “Dewisaist ti y tŷ hwn i ddwyn dy enw,i fod yn dŷ gweddi a deisyfiad i'th bobl.
38. Tâl ddialedd i'r dyn hwn a'i fyddin,a phâr iddynt syrthio gan gleddyf;cofia'u cableddau,a phaid â gadael iddynt fyw.”
39. Aeth Nicanor allan o Jerwsalem a gwersyllu yn Beth-horon, ac ymgynullodd byddin Syria ato.
40. Gwersyllodd Jwdas yn Adasa gyda thair mil o wŷr.
41. Yna gweddïodd Jwdas fel hyn: “Pan gablodd y negeswyr a anfonodd y brenin, aeth dy angel i'r frwydr a tharo cant wyth deg a phump o filoedd o'r Asyriaid.
42. Maluria yn yr un modd y fyddin hon o'n blaen heddiw, a gwybydded pawb i Nicanor lefaru'n enllibus am dy gysegr, a barna ef yn ôl ei ddrygioni.”
43. Daeth y byddinoedd ynghyd i frwydr ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar. Maluriwyd byddin Nicanor, ac ef ei hun oedd y cyntaf i syrthio yn y frwydr.
44. Pan welodd ei fyddin fod Nicanor wedi syrthio, taflasant eu harfau i ffwrdd a ffoi.
45. Ond erlidiodd yr Iddewon hwy daith diwrnod o Adasa hyd at Gasara, gan seinio'r alwad i'r gad ar eu hutgyrn o'r tu ôl iddynt.
46. Daeth gwŷr allan o holl bentrefi Jwdea yn y cylch, ac amgylchynu'r gelyn, a'u troi'n ôl at eu hymlidwyr. Syrthiodd pawb gan gleddyf, ac ni adawyd cymaint ag un ohonynt.
47. Cymerodd yr Iddewon yr ysbail a'r anrhaith, a thorasant i ffwrdd ben Nicanor a'i law dde, honno yr oedd wedi ei hestyn allan mor falch, a'u dwyn a'u harddangos ar gyrion Jerwsalem.
48. Gorfoleddodd y bobl yn fawr, a dathlu'r dydd hwnnw yn ddydd o orfoledd mawr.