1 Macabeaid 7:28-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. “Na fydded ymladd rhyngof fi a chwi; rwyf am ddod gydag ychydig wŷr i'ch gweld wyneb yn wyneb mewn heddwch.”

29. Daeth at Jwdas, a chyfarchodd y ddau ei gilydd yn heddychlon; yr oedd y gelynion, er hynny, yn barod i gipio Jwdas.

30. Pan fynegwyd i Jwdas mai dichell oedd bwriad Nicanor wrth ddod ato, dychrynodd rhagddo a gwrthod ei gyfarfod eto.

31. Pan ddeallodd Nicanor fod ei gynllwyn wedi ei ddinoethi, aeth ar gyrch i wynebu Jwdas gerllaw Caffarsalama.

32. Syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Nicanor, a ffoes y gweddill i Ddinas Dafydd.

33. Wedi'r pethau hyn aeth Nicanor i fyny i Fynydd Seion. Daeth rhai o'r offeiriaid allan o'r cysegr, a rhai o henuriaid y bobl, i'w gyfarch yn heddychlon ac i ddangos iddo y poethoffrwm oedd yn cael ei offrymu dros y brenin.

34. Ond gwawdiodd hwy a'u gwatwar a'u halogi, gan frolio

35. a thyngu llw yn ei ddicter: “Os na thraddodir Jwdas a'i fyddin i'm dwylo ar unwaith, yna pan ddychwelaf yn fuddugoliaethus, fe losgaf y tŷ yma.”

36. Ac ymaith ag ef mewn dicter mawr. Yna aeth yr offeiriaid i mewn a sefyll gerbron yr allor a'r cysegr, gan wylo a dweud:

37. “Dewisaist ti y tŷ hwn i ddwyn dy enw,i fod yn dŷ gweddi a deisyfiad i'th bobl.

38. Tâl ddialedd i'r dyn hwn a'i fyddin,a phâr iddynt syrthio gan gleddyf;cofia'u cableddau,a phaid â gadael iddynt fyw.”

1 Macabeaid 7