1 Macabeaid 7:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Pan welodd Jwdas yr holl ddrygioni yr oedd Alcimus a'i ganlynwyr wedi ei ddwyn ar blant Israel—yr oedd yn waeth na dim oddi ar law'r Cenhedloedd—

24. aeth ar gyrch o amgylch holl derfynau Jwdea, gan ddial ar y rhai oedd wedi gwrthgilio, a'u rhwystro rhag dianc i ardal wledig.

25. Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'i ganlynwyr wedi magu cryfder, a sylweddoli na fedrai eu gwrthsefyll, dychwelodd at y brenin a'u cyhuddo o weithredoedd anfad.

26. Anfonodd y brenin un o'i gadfridogion enwocaf, Nicanor, gelyn cas i Israel, a gorchymyn iddo ddinistrio'r bobl.

27. Felly daeth Nicanor i Jerwsalem gyda byddin fawr, ac anfon yn ddichellgar at Jwdas a'i frodyr y neges heddychlon hon:

1 Macabeaid 7