22. a heidiodd holl aflonyddwyr y bobl ato. Darostyngasant wlad Jwda, a gwneud difrod mawr yn Israel.
23. Pan welodd Jwdas yr holl ddrygioni yr oedd Alcimus a'i ganlynwyr wedi ei ddwyn ar blant Israel—yr oedd yn waeth na dim oddi ar law'r Cenhedloedd—
24. aeth ar gyrch o amgylch holl derfynau Jwdea, gan ddial ar y rhai oedd wedi gwrthgilio, a'u rhwystro rhag dianc i ardal wledig.
25. Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'i ganlynwyr wedi magu cryfder, a sylweddoli na fedrai eu gwrthsefyll, dychwelodd at y brenin a'u cyhuddo o weithredoedd anfad.
26. Anfonodd y brenin un o'i gadfridogion enwocaf, Nicanor, gelyn cas i Israel, a gorchymyn iddo ddinistrio'r bobl.
27. Felly daeth Nicanor i Jerwsalem gyda byddin fawr, ac anfon yn ddichellgar at Jwdas a'i frodyr y neges heddychlon hon:
28. “Na fydded ymladd rhyngof fi a chwi; rwyf am ddod gydag ychydig wŷr i'ch gweld wyneb yn wyneb mewn heddwch.”
29. Daeth at Jwdas, a chyfarchodd y ddau ei gilydd yn heddychlon; yr oedd y gelynion, er hynny, yn barod i gipio Jwdas.
30. Pan fynegwyd i Jwdas mai dichell oedd bwriad Nicanor wrth ddod ato, dychrynodd rhagddo a gwrthod ei gyfarfod eto.
31. Pan ddeallodd Nicanor fod ei gynllwyn wedi ei ddinoethi, aeth ar gyrch i wynebu Jwdas gerllaw Caffarsalama.
32. Syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Nicanor, a ffoes y gweddill i Ddinas Dafydd.
33. Wedi'r pethau hyn aeth Nicanor i fyny i Fynydd Seion. Daeth rhai o'r offeiriaid allan o'r cysegr, a rhai o henuriaid y bobl, i'w gyfarch yn heddychlon ac i ddangos iddo y poethoffrwm oedd yn cael ei offrymu dros y brenin.
34. Ond gwawdiodd hwy a'u gwatwar a'u halogi, gan frolio