1 Macabeaid 7:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fel yr oedd ar ei ffordd i lys brenhinol ei hynafiaid daliodd ei fyddin Antiochus a Lysias, gyda'r bwriad o'u dwyn ger ei fron.

3. Ond pan glywodd am hyn dywedodd, “Peidiwch â dangos eu hwynebau i mi.”

4. Felly lladdodd ei fyddin hwy, ac eisteddodd Demetrius ar orsedd ei deyrnas.

5. Daeth ato holl wŷr digyfraith ac annuwiol Israel, ac Alcimus, gŵr oedd â'i fryd ar fod yn archoffeiriad, yn eu harwain.

6. Cyhuddasant y bobl gerbron y brenin fel hyn: “Y mae Jwdas a'i frodyr wedi lladd dy holl gyfeillion, ac wedi ein gyrru ninnau allan o'n gwlad.

7. Gan hynny anfon yn awr ŵr yr wyt yn ymddiried ynddo, i fynd a gweld yr holl ddifrod a wnaeth Jwdas i ni ac i diriogaeth y brenin, a boed iddo'u cosbi hwy a phawb sydd yn eu helpu.”

1 Macabeaid 7