1 Macabeaid 7:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.

12. Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.

13. Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;

14. oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”

15. A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”

16. Wedi ennill eu hymddiriedaeth, cymerodd ef drigain gŵr ohonynt a'u lladd mewn un diwrnod, yn unol â gair yr Ysgrythur:

17. “Cnawd dy saint a'u gwaed,fe'u taenaist o amgylch Jerwsalem,ac nid oedd neb i'w claddu.”

18. Dechreuodd yr holl bobl eu hofni ac arswydo rhagddynt, gan ddweud, “Nid oes na gwirionedd na barn ganddynt, oherwydd y maent wedi torri'r cytundeb a'r llw a dyngasant.”

19. Ymadawodd Bacchides â Jerwsalem a gwersyllu yn Bethsaith. Rhoes orchymyn i ddal llawer o'r gwŷr oedd wedi gwrthgilio ato, ynghyd â rhai o'r bobl, a'u lladd a'u taflu i'r bydew mawr.

20. Gosododd y diriogaeth yng ngofal Alcimus, a gadael byddin gydag ef i'w gynorthwyo. Yna dychwelodd Bacchides at y brenin.

21. Ymdrechodd Alcimus yn galed i sicrhau'r archoffeiriadaeth iddo'i hun,

22. a heidiodd holl aflonyddwyr y bobl ato. Darostyngasant wlad Jwda, a gwneud difrod mawr yn Israel.

1 Macabeaid 7