1 Macabeaid 7:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y flwyddyn 151 ymadawodd Demetrius fab Selewcus â Rhufain a dod, ynghyd ag ychydig wŷr, i dref ar lan y môr, a theyrnasu yno.

2. Fel yr oedd ar ei ffordd i lys brenhinol ei hynafiaid daliodd ei fyddin Antiochus a Lysias, gyda'r bwriad o'u dwyn ger ei fron.

3. Ond pan glywodd am hyn dywedodd, “Peidiwch â dangos eu hwynebau i mi.”

4. Felly lladdodd ei fyddin hwy, ac eisteddodd Demetrius ar orsedd ei deyrnas.

5. Daeth ato holl wŷr digyfraith ac annuwiol Israel, ac Alcimus, gŵr oedd â'i fryd ar fod yn archoffeiriad, yn eu harwain.

6. Cyhuddasant y bobl gerbron y brenin fel hyn: “Y mae Jwdas a'i frodyr wedi lladd dy holl gyfeillion, ac wedi ein gyrru ninnau allan o'n gwlad.

7. Gan hynny anfon yn awr ŵr yr wyt yn ymddiried ynddo, i fynd a gweld yr holl ddifrod a wnaeth Jwdas i ni ac i diriogaeth y brenin, a boed iddo'u cosbi hwy a phawb sydd yn eu helpu.”

8. Dewisodd y brenin Bacchides, un o'i Gyfeillion, a oedd yn llywodraethu talaith Tu-hwnt-i'r-afon, gŵr mawr yn y deyrnas a theyrngar i'r brenin.

9. Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.

10. Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.

11. Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.

12. Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.

1 Macabeaid 7