1 Macabeaid 6:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Bu yno am ddyddiau lawer, oherwydd bod y gofid mawr yn dod yn donnau drosto o hyd ac o hyd, a barnodd ei fod ar fin marw.

10. Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgáu gan bryder.

11. A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.

1 Macabeaid 6