1 Macabeaid 6:54-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

54. Ychydig o wŷr a adawyd ar ôl yn y cysegr; yr oedd newyn wedi eu goddiweddyd, a phob un wedi mynd ar wasgar i'w le ei hun.

55. Clywodd Lysias fod Philip, hwnnw a benodwyd gan y Brenin Antiochus cyn ei farw i feithrin ei fab Antiochus i fod yn frenin,

56. wedi dychwelyd o Persia a Media, a chydag ef y lluoedd oedd wedi mynd ar ymgyrch gyda'r brenin, a'i fod yn ceisio cipio awenau'r llywodraeth.

57. Brysiodd Lysias i orchymyn iddynt ymadael, a dywedodd wrth y brenin ac arweinwyr y lluoedd a'r gwŷr, “Yr ydym yn mynd yn wannach bob dydd, yn brin o luniaeth, a'r lle yr ydym yn ymladd yn ei erbyn yn gadarn, ac y mae materion y deyrnas yn gwasgu arnom.

58. Yn awr, gan hynny, gadewch inni gynnig telerau i'r rhai hyn a gwneud heddwch â hwy ac â'u holl genedl,

59. a gadewch inni ganiatáu iddynt rodio yn ôl eu cyfreithiau fel cynt; oherwydd ein gwaith ni yn diddymu eu cyfreithiau a barodd iddynt ddigio a gwneud yr holl bethau hyn.”

60. Bu'r cyngor hwn yn dderbyniol gan y brenin a'r capteiniaid; anfonwyd at yr Iddewon delerau heddwch, a derbyniasant hwythau hwy.

61. Tyngodd y brenin a'i gapteiniaid lw iddynt; ac ar hynny daethant allan o'r gaer.

62. Ond pan aeth y brenin i Fynydd Seion a gweld mor gadarn oedd y lle, torrodd y llw yr oedd wedi ei dyngu, a gorchmynnodd ddymchwel y mur o'i gwmpas.

63. Yna ymadawodd ar frys a dychwelyd i Antiochia. Cafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ond ymladdodd yn ei erbyn a meddiannu'r ddinas trwy drais.

1 Macabeaid 6