1 Macabeaid 6:50-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Meddiannodd y brenin Bethswra a gosod gwarchodlu yno i'w gwylio.

51. Yna gwarchaeodd ar y deml am ddyddiau lawer, gan osod yno lwyfannau-saethu, a pheiriannau rhyfel i boeri tân a cherrig, ac offer i saethu taflegrau, a chatapwltau.

52. Adeiladodd yr Iddewon hwythau beiriannau rhyfel i wynebu eu peiriannau hwy, ac ymladdasant am ddyddiau lawer.

53. Ond nid oedd ganddynt ymborth yn y stordai, am mai'r seithfed flwyddyn ydoedd; ac yr oedd y ffoaduriaid o blith y Cenhedloedd, a oedd wedi dod i Jwdea, wedi bwyta hynny oedd yn weddill o'r stôr.

1 Macabeaid 6