48. Teithiodd rhan o fyddin y brenin i fyny i Jerwsalem ar gyrch, a gwarchaeodd y brenin ar Jwdea ac ar Fynydd Seion.
49. Gwnaeth heddwch â thrigolion Bethswra; ymadawsant hwy â'r ddinas am nad oedd ganddynt luniaeth yno i wrthsefyll y gwarchae arni, oherwydd yr oedd yn flwyddyn sabothol i'r tir.
50. Meddiannodd y brenin Bethswra a gosod gwarchodlu yno i'w gwylio.
51. Yna gwarchaeodd ar y deml am ddyddiau lawer, gan osod yno lwyfannau-saethu, a pheiriannau rhyfel i boeri tân a cherrig, ac offer i saethu taflegrau, a chatapwltau.
52. Adeiladodd yr Iddewon hwythau beiriannau rhyfel i wynebu eu peiriannau hwy, ac ymladdasant am ddyddiau lawer.
53. Ond nid oedd ganddynt ymborth yn y stordai, am mai'r seithfed flwyddyn ydoedd; ac yr oedd y ffoaduriaid o blith y Cenhedloedd, a oedd wedi dod i Jwdea, wedi bwyta hynny oedd yn weddill o'r stôr.
54. Ychydig o wŷr a adawyd ar ôl yn y cysegr; yr oedd newyn wedi eu goddiweddyd, a phob un wedi mynd ar wasgar i'w le ei hun.
55. Clywodd Lysias fod Philip, hwnnw a benodwyd gan y Brenin Antiochus cyn ei farw i feithrin ei fab Antiochus i fod yn frenin,
56. wedi dychwelyd o Persia a Media, a chydag ef y lluoedd oedd wedi mynd ar ymgyrch gyda'r brenin, a'i fod yn ceisio cipio awenau'r llywodraeth.