31. Daethant drwy Idwmea a gwersyllu yn erbyn Bethswra, ac ymladd dros ddyddiau lawer; codasant beiriannau rhyfel, ond gwnaeth yr Iddewon gyrch arnynt a'u llosgi â thân, ac ymladd yn wrol.
32. Ymadawodd Jwdas â'r gaer a gwersyllu yn Bethsacharia, gyferbyn â gwersyll y brenin.
33. Cododd y brenin yn fore iawn a dwyn ei fyddin ar garlam ar hyd ffordd Bethsacharia.
34. Ymbaratôdd ei luoedd i ryfel, a chanu'r utgyrn. Dangosasant i'r eliffantod sudd grawnwin a mwyar i'w cyffroi i ryfel.
35. Yna rhanasant yr anifeiliaid rhwng y minteioedd, gan osod i bob eliffant fil o wŷr traed, yn arfog mewn llurigau, a helmau pres ar eu pennau, ynghyd â phum cant o wŷr meirch dethol ar gyfer pob anifail.
36. Byddai'r rhain yno ymlaen llaw lle bynnag y byddai safle'r anifail, ac i ble bynnag y byddai'n mynd, byddent hwythau'n mynd gydag ef, heb ymadael ag ef.
37. Ar gefn pob eliffant yr oedd tŵr cadarn o bren i lochesu ynddo, wedi ei rwymo wrth bob anifail ag offer arbennig, ac ym mhob un ohonynt yr oedd pedwar o wŷr arfog parod i ryfel, ynghyd â'r Indiad o yrrwr.
38. Gosododd Lysias weddill y gwŷr meirch ar bob ochr, ar ddwy ystlys y fyddin, er mwyn iddynt aflonyddu ar y gelyn yng nghysgod y minteioedd.
39. Pan ddisgleiriai'r haul ar y tarianau aur a phres, fe ddisgleiriai'r mynyddoedd ganddynt, a goleuo fel ffaglau ar dân.
40. Yr oedd un rhan o fyddin y brenin wedi ei threfnu'n rhengoedd ar ben y mynyddoedd uchel, a'r rhan arall ar y gwastadeddau, ac yr oeddent yn symud ymlaen yn hyderus mewn trefn.