25. Ac nid yn ein herbyn ni yn unig yr estynasant eu dwylo, ond hefyd yn erbyn eu holl gymdogion.
26. A dyma hwy heddiw wedi gwersyllu yn erbyn y gaer yn Jerwsalem, i'w meddiannu hi; y maent wedi cadarnhau'r cysegr a Bethswra hefyd;
27. ac oni achubi di y blaen arnynt ar fyrder, fe wnânt bethau gwaeth na hynny, ac ni fydd modd iti eu hatal.”
28. Aeth y brenin yn ddig pan glywodd hyn. Casglodd ynghyd ei holl Gyfeillion, capteiniaid ei lu a swyddogion ei wŷr meirch.
29. Daeth lluoedd o filwyr cyflog o deyrnasoedd eraill ac o ynysoedd y moroedd i ymuno ag ef.
30. A rhifedi ei luoedd oedd can mil o wŷr traed, ugain mil o wŷr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantod wedi arfer â rhyfel.
31. Daethant drwy Idwmea a gwersyllu yn erbyn Bethswra, ac ymladd dros ddyddiau lawer; codasant beiriannau rhyfel, ond gwnaeth yr Iddewon gyrch arnynt a'u llosgi â thân, ac ymladd yn wrol.
32. Ymadawodd Jwdas â'r gaer a gwersyllu yn Bethsacharia, gyferbyn â gwersyll y brenin.
33. Cododd y brenin yn fore iawn a dwyn ei fyddin ar garlam ar hyd ffordd Bethsacharia.
34. Ymbaratôdd ei luoedd i ryfel, a chanu'r utgyrn. Dangosasant i'r eliffantod sudd grawnwin a mwyar i'w cyffroi i ryfel.