1 Macabeaid 6:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ac nid yn ein herbyn ni yn unig yr estynasant eu dwylo, ond hefyd yn erbyn eu holl gymdogion.

26. A dyma hwy heddiw wedi gwersyllu yn erbyn y gaer yn Jerwsalem, i'w meddiannu hi; y maent wedi cadarnhau'r cysegr a Bethswra hefyd;

27. ac oni achubi di y blaen arnynt ar fyrder, fe wnânt bethau gwaeth na hynny, ac ni fydd modd iti eu hatal.”

28. Aeth y brenin yn ddig pan glywodd hyn. Casglodd ynghyd ei holl Gyfeillion, capteiniaid ei lu a swyddogion ei wŷr meirch.

29. Daeth lluoedd o filwyr cyflog o deyrnasoedd eraill ac o ynysoedd y moroedd i ymuno ag ef.

30. A rhifedi ei luoedd oedd can mil o wŷr traed, ugain mil o wŷr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantod wedi arfer â rhyfel.

1 Macabeaid 6