1 Macabeaid 6:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. ac o achos hyn y mae ein pobl ein hunain wedi gwarchae ar y gaer a mynd yn elynion i ni; lladdasant hefyd gynifer ohonom ag a ddaliasant, a chymryd ein heiddo yn anrhaith.

25. Ac nid yn ein herbyn ni yn unig yr estynasant eu dwylo, ond hefyd yn erbyn eu holl gymdogion.

26. A dyma hwy heddiw wedi gwersyllu yn erbyn y gaer yn Jerwsalem, i'w meddiannu hi; y maent wedi cadarnhau'r cysegr a Bethswra hefyd;

27. ac oni achubi di y blaen arnynt ar fyrder, fe wnânt bethau gwaeth na hynny, ac ni fydd modd iti eu hatal.”

28. Aeth y brenin yn ddig pan glywodd hyn. Casglodd ynghyd ei holl Gyfeillion, capteiniaid ei lu a swyddogion ei wŷr meirch.

1 Macabeaid 6