1 Macabeaid 6:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr oedd ei theml yn oludog iawn, gyda'r llenni euraid, a'r llurigau, a'r arfau a adawyd ar ôl gan Alexander fab Philip, brenin Macedonia, y cyntaf i fod yn frenin ar y Groegiaid.

3. Daeth Antiochus yno, a cheisio meddiannu'r ddinas a'i hysbeilio, ond ni lwyddodd, am i'w gynllwyn ddod yn hysbys i'r dinasyddion.

4. Codasant i ryfela yn ei erbyn, a ffoes yntau ac ymadael oddi yno wedi ei siomi'n fawr, i ddychwelyd i Fabilon.

5. Daeth negesydd ato i Persia ac adrodd fod y byddinoedd a ddaethai i wlad Jwda wedi eu gyrru ar ffo.

6. Yr oedd Lysias, er iddo ymosod yn gyntaf â llu arfog cryf, wedi ei ymlid ymaith gan yr Iddewon, a hwythau wedi ymgryfhau trwy'r arfau a'r adnoddau a'r ysbail lawer a ddygasant oddi ar y byddinoedd yr oeddent wedi eu trechu.

7. Yr oeddent wedi dymchwelyd y ffieiddbeth yr oedd Antiochus wedi ei adeiladu ar yr allor yn Jerwsalem, ac wedi amgylchu'r cysegr â muriau uchel fel o'r blaen, a'r un modd Bethswra, ei ddinas ef.

8. Pan glywodd y brenin y geiriau hyn syfrdanwyd ef, a'i sigo gymaint nes iddo fynd a chadw i'w wely a chlafychu o'r gofid, o beidio â chael yr hyn y rhoes ei fryd arno.

9. Bu yno am ddyddiau lawer, oherwydd bod y gofid mawr yn dod yn donnau drosto o hyd ac o hyd, a barnodd ei fod ar fin marw.

10. Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgáu gan bryder.

11. A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.

12. Ond yn awr daw i'm cof y drygau a wneuthum yn Jerwsalem, sef dwyn ymaith yr holl lestri arian ac aur oedd ynddi, a gorchymyn distrywio trigolion Jwda heb achos.

1 Macabeaid 6