1 Macabeaid 6:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Felly bu farw'r Brenin Antiochus yno yn y flwyddyn 149.

17. Pan glywodd Lysias am farw'r brenin, gosododd Antiochus, y mab yr oedd wedi ei feithrin o'i fachgendod, i ddilyn ei dad ar yr orsedd, a galwodd ef Ewpator.

18. Yn y cyfamser yr oedd gwŷr y gaer yn cau i mewn ar Israel o amgylch y cysegr ac yn ceisio'u drygu ym mhob modd, ac atgyfnerthu'r Cenhedloedd.

19. Penderfynodd Jwdas eu distrywio, a chynullodd yr holl bobl i warchae arnynt.

20. Ymgasglasant ynghyd a gwarchae ar y gaer yn y flwyddyn 150. Cododd Jwdas lwyfannau-saethu ynghyd â'u peiriannau yn eu herbyn.

21. Dihangodd rhai o warchodlu'r gaer o'r gwarchae, ac ymunodd rhai o'r gwrthgilwyr o Israel â hwy.

22. Aethant at y brenin a dweud, “Pa hyd y byddi heb wneud barn a dial cam ein cenedl?

23. Yr oeddem ni'n fodlon gwasanaethu dy dad, gan ddilyn ei gyfarwyddiadau ac ufuddhau i'w orchmynion,

24. ac o achos hyn y mae ein pobl ein hunain wedi gwarchae ar y gaer a mynd yn elynion i ni; lladdasant hefyd gynifer ohonom ag a ddaliasant, a chymryd ein heiddo yn anrhaith.

25. Ac nid yn ein herbyn ni yn unig yr estynasant eu dwylo, ond hefyd yn erbyn eu holl gymdogion.

1 Macabeaid 6