1 Macabeaid 6:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgáu gan bryder.

11. A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.

12. Ond yn awr daw i'm cof y drygau a wneuthum yn Jerwsalem, sef dwyn ymaith yr holl lestri arian ac aur oedd ynddi, a gorchymyn distrywio trigolion Jwda heb achos.

1 Macabeaid 6