1 Macabeaid 5:63-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

63. Mawr oedd clod y gŵr Jwdas a'i frodyr drwy holl Israel a thrwy'r holl Genhedloedd, ple bynnag y clywid eu henw.

64. Byddai pobl yn tyrru atynt a'u hanrhydeddu.

65. Yna aeth Jwdas a'i frodyr allan a dechrau rhyfela yn erbyn meibion Esau yn y diriogaeth tua'r de. Trawodd Hebron a'i phentrefi, a difrodi ei cheyrydd a llosgi y tyrau o'i hamgylch.

66. Ymadawodd wedyn i fynd i wlad y Philistiaid, a thramwyodd drwy Marisa.

67. Y dydd hwnnw syrthiodd nifer o offeiriaid mewn brwydr wrth iddynt yn eu byrbwylltra fentro i'r gad gan fwriadu gwneud gwrhydri.

68. Ond troes Jwdas o'r neilltu i Asotus yng ngwlad y Philistiaid; difrododd eu hallorau, a llosgi delwau cerfiedig eu duwiau â thân, ac ysbeilio'r trefi; yna dychwelodd i wlad Jwda.

1 Macabeaid 5