45. Casglodd Jwdas ynghyd bawb o wŷr Israel a oedd yn Gilead, o'r lleiaf i'r mwyaf, gyda'u gwragedd a'u plant a'u heiddo, tyrfa luosog iawn, i ddod â hwy i wlad Jwda.
46. Daethant hyd at Effron, tref gaerog fawr iawn ar y briffordd. Nid oedd modd mynd heibio iddi i'r dde nac i'r chwith; rhaid oedd teithio drwy ei chanol.
47. Ond caeodd gwŷr y dref hwy allan a llenwi'r pyrth â cherrig.
48. Anfonodd Jwdas atynt neges heddychlon: “Yr ydym ar fynd drwy eich gwlad er mwyn cyrraedd ein gwlad ein hunain, ac ni wna neb ddrwg i chwi. Cerdded trwodd yn unig y byddwn.” Ond ni fynnent agor iddo.
49. Yna gorchmynnodd Jwdas gyhoeddi yn y fyddin fod pob un i wersyllu yn y man lle'r oedd.
50. Gwersyllodd gwŷr y llu, ac ymladdodd ef yn erbyn y dref y diwrnod hwnnw ar ei hyd, a'r nos hefyd, nes i'r dref ildio i'w ddwylo.
51. Lladdodd bob gwryw â min y cledd, a dymchwelyd y dref hyd at ei sylfeini, a'i hysbeilio. Yna tramwyodd drwyddi ar draws cyrff rhai a laddwyd.