1 Macabeaid 5:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Ond os bydd yn ofnus a gwersyllu yr ochr draw i'r afon, fe awn ni drosodd ato ef a'i drechu.”

42. Pan nesaodd Jwdas at ddyfroedd y nant, gosododd swyddogion y fyddin ar lan y nant a gorchymyn iddynt fel hyn: “Peidiwch â chaniatáu i neb wersyllu, ond eled pawb yn ei flaen i'r gad.”

43. Yna achubodd y blaen i groesi atynt hwy, a'r holl fyddin ar ei ôl. Drylliwyd yr holl Genhedloedd o'i flaen; taflasant ymaith eu harfau a ffoi i gysegrle Carnaim.

44. Yna meddiannodd y dref a llosgi'r cysegrle â thân, ynghyd â phawb a oedd ynddo. Felly dymchwelwyd Carnaim; ni allai mwyach wrthsefyll Jwdas.

1 Macabeaid 5