30. Ar doriad gwawr edrychasant a gweld llu mawr na ellid ei rifo yn dwyn ysgolion a pheiriannau rhyfel i feddiannu'r gaer; ac yr oeddent ar ymosod ar y rhai o'i mewn.
31. Gwelodd Jwdas fod y frwydr wedi dechrau, a bod cri'r dref yn esgyn i'r nef â sain utgyrn a bloedd uchel.
32. Dywedodd wrth wŷr ei fyddin, “Ymladdwch heddiw dros ein brodyr.”
33. Yna cychwynasant yn dair mintai i ymosod arnynt o'r tu ôl. Seiniasant yr utgyrn a chodi llef mewn gweddi.
34. Pan wybu byddin Timotheus mai Macabeus ydoedd, ffoesant rhagddo; trawodd hwy ag ergyd drom, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch wyth mil o'u gwŷr.
35. Troes wedyn o'r neilltu tuag Alema. Ymladdodd yn ei herbyn a'i meddiannu, a lladd pob gwryw ynddi. Ysbeiliodd hi a'i llosgi â thân.
36. Teithiodd oddi yno a meddiannu Chasffo, Maced, Bosor, a gweddill trefi Gilead.
37. Wedi'r digwyddiadau hyn casglodd Timotheus fyddin arall a gwersyllu gyferbyn â Raffon, yr ochr draw i'r nant.
38. Anfonodd Jwdas rai i ysbïo'r gwersyll, a daethant â'r adroddiad hwn iddo: “Y mae'r holl Genhedloedd o'n cwmpas wedi ymgynnull ato, yn llu mawr iawn.
39. Y maent hefyd wedi cyflogi Arabiaid i'w cynorthwyo, ac y maent yn gwersyllu yr ochr draw i'r nant, yn barod i ddod i'th erbyn i ryfel.” Yna aeth Jwdas allan i'w cyfarfod.
40. Wrth i Jwdas a'i fyddin nesáu at ddyfroedd y nant, meddai Timotheus wrth gapteiniaid ei lu, “Os daw ef drosodd yn gyntaf atom ni, ni fyddwn yn gallu ei wrthsefyll, oherwydd bydd ef yn drech o lawer na ni.
41. Ond os bydd yn ofnus a gwersyllu yr ochr draw i'r afon, fe awn ni drosodd ato ef a'i drechu.”
42. Pan nesaodd Jwdas at ddyfroedd y nant, gosododd swyddogion y fyddin ar lan y nant a gorchymyn iddynt fel hyn: “Peidiwch â chaniatáu i neb wersyllu, ond eled pawb yn ei flaen i'r gad.”
43. Yna achubodd y blaen i groesi atynt hwy, a'r holl fyddin ar ei ôl. Drylliwyd yr holl Genhedloedd o'i flaen; taflasant ymaith eu harfau a ffoi i gysegrle Carnaim.