16. Pan glywodd Jwdas a'r bobl y geiriau hyn, galwyd cynulliad llawn i ystyried beth a allent ei wneud dros eu cydwladwyr a oedd mewn gorthrymder, dan bwys ymosodiad eu gelynion.
17. Yna dywedodd Jwdas wrth Simon ei frawd, “Dewis dy wŷr a dos, achub dy frodyr sydd yn Galilea; mi af fi a Jonathan fy mrawd i Gilead.”
18. Ond gadawodd ef Joseff fab Sacharias ac Asarias, llywodraethwr y bobl, ynghyd â gweddill y fyddin yn Jwdea i'w gwarchod hi;
19. a gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Gwyliwch dros y bobl hyn, ond peidiwch â mynd i ryfel yn erbyn y Cenhedloedd hyd nes i ni ddychwelyd.”
20. Yna dosbarthwyd tair mil o wŷr i Simon i fynd i Galilea, ac wyth mil i Jwdas i fynd i Gilead.
21. Aeth Simon i Galilea ac ymladd brwydrau lawer yn erbyn y Cenhedloedd, a drylliwyd y Cenhedloedd o'i flaen.
22. Erlidiodd hwy hyd at borth Ptolemais, a syrthiodd ynghylch tair mil o wŷr y Cenhedloedd, ac fe'u hysbeiliwyd.
23. Yna cymerodd Iddewon Galilea ac Arbatta, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u holl eiddo, a'u dwyn yn ôl i Jwdea â llawenydd mawr.
24. Croesodd Jwdas Macabeus a Jonathan ei frawd yr Iorddonen a mynd ar daith dridiau i'r anialwch.
25. Cyfarfuasant â'r Nabateaid, a ddaeth atynt yn heddychlon gan fynegi iddynt y cyfan a oedd wedi digwydd i'w cyd-genedl yn Gilead:
26. bod llawer ohonynt yn garcharorion yn Bosra a Bosor, yn Alema a Chasffo, Maced a Carnaim—trefi mawr caerog yw'r rhain i gyd—
27. a bod rhai'n garcharorion yn y gweddill o drefi Gilead; a bod y gelyn yn ymbaratoi i ymosod ar y ceyrydd drannoeth a'u meddiannu, a dinistrio mewn un diwrnod yr holl Iddewon oedd ynddynt.
28. Ar hyn troes Jwdas a'i fyddin yn ôl ar frys ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosra; meddiannodd y dref, ac wedi lladd pob gwryw â min y cledd ysbeiliodd eu holl eiddo, a'i llosgi hi â thân.
29. Ciliodd oddi yno liw nos a dod hyd at gaer Dathema
30. Ar doriad gwawr edrychasant a gweld llu mawr na ellid ei rifo yn dwyn ysgolion a pheiriannau rhyfel i feddiannu'r gaer; ac yr oeddent ar ymosod ar y rhai o'i mewn.
31. Gwelodd Jwdas fod y frwydr wedi dechrau, a bod cri'r dref yn esgyn i'r nef â sain utgyrn a bloedd uchel.
32. Dywedodd wrth wŷr ei fyddin, “Ymladdwch heddiw dros ein brodyr.”
33. Yna cychwynasant yn dair mintai i ymosod arnynt o'r tu ôl. Seiniasant yr utgyrn a chodi llef mewn gweddi.
34. Pan wybu byddin Timotheus mai Macabeus ydoedd, ffoesant rhagddo; trawodd hwy ag ergyd drom, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch wyth mil o'u gwŷr.
35. Troes wedyn o'r neilltu tuag Alema. Ymladdodd yn ei herbyn a'i meddiannu, a lladd pob gwryw ynddi. Ysbeiliodd hi a'i llosgi â thân.
36. Teithiodd oddi yno a meddiannu Chasffo, Maced, Bosor, a gweddill trefi Gilead.