1 Macabeaid 4:57-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.

58. Bu llawenydd mawr iawn ymhlith y bobl, a dilëwyd y gwaradwydd a ddygasai'r Cenhedloedd arnynt.

59. Ordeiniodd Jwdas a'i frodyr a holl gynulleidfa Israel fod dathlu dyddiau ailgysegru'r allor yn eu hamserau priod bob blwyddyn am wyth diwrnod â llawenydd a gorfoledd, gan ddechrau ar y pumed dydd ar hugain o'r mis Cislef.

60. Yn yr amser hwnnw amgylchynasant Fynydd Seion â muriau uchel ac â thyrau cadarn, rhag i'r Cenhedloedd ddod a'u sathru i lawr fel yr oeddent wedi gwneud o'r blaen.

61. Yna gosododd Jwdas lu arfog yno i'w warchod, a chadarnhaodd Bethswra fel y byddai gan y bobl gaer gadarn gyferbyn ag Idwmea.

1 Macabeaid 4