1 Macabeaid 4:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pan aeth Gorgias i mewn i wersyll Jwdas liw nos ni chafodd neb yno; aeth i chwilio amdanynt yn y mynyddoedd, gan ddweud wrtho'i hun, “Y mae'r gwŷr hyn ar ffo oddi wrthym.”

6. Gyda'r wawr gwelwyd Jwdas yn y gwastadedd gyda thair mil o wŷr; ond nid oedd ganddynt gymaint o arfwisgoedd a chleddyfau ag y dymunent.

7. Gwelsant wersyll y Cenhedloedd, yn gadarn yn ei gloddiau amddiffynnol, gyda gwŷr meirch yn gylch amdano, a'r rheini'n rhyfelwyr hyddysg.

8. Dywedodd Jwdas wrth y gwŷr oedd gydag ef, “Peidiwch ag ofni eu rhifedi nac arswydo rhag eu cyrch.

9. Cofiwch pa fodd yr achubwyd ein hynafiaid wrth y Môr Coch, pan oedd Pharo a'i lu yn eu hymlid.

1 Macabeaid 4