1 Macabeaid 4:43-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.

44. Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,

45. penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,

46. a chasglu'r cerrig i'w cadw mewn man cyfleus yng nghyffiniau bryn y deml, hyd oni chyfodai proffwyd i ddyfarnu arnynt.

1 Macabeaid 4