1 Macabeaid 4:40-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. ac yn sŵn utgyrn y defodau syrthiasant ar eu hwynebau ar y ddaear a chodi eu llef i'r nef.

41. Yna gosododd Jwdas wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y gaer, tra byddai ef yn glanhau'r cysegr.

42. Dewisodd offeiriaid dilychwin, ymroddedig i'r gyfraith,

43. i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.

44. Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,

45. penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,

1 Macabeaid 4