1 Macabeaid 4:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Caiff yr holl Genhedloedd wybod wedyn fod yna un sy'n gwaredu ac yn achub Israel.”

12. Pan edrychodd yr estroniaid, a'u gweld yn dod yn eu herbyn,

13. aethant allan o'r gwersyll i'r frwydr. Canodd gwŷr Jwdas eu hutgyrn

14. a mynd i'r afael â hwy. Drylliwyd y Cenhedloedd a ffoesant i'r gwastadedd,

15. a syrthiodd y rhengoedd ôl i gyd wedi eu trywanu â'r cleddyf. Ymlidiasant hwy hyd at Gasara, a hyd at wastadeddau Idwmea, Asotus a Jamnia, a syrthiodd tua thair mil o'u gwŷr.

16. Dychwelodd Jwdas a'i lu o'u hymlid,

17. a dywedodd wrth y bobl, “Peidiwch â chwennych ysbail, oherwydd y mae rhagor o ryfela o'n blaen.

1 Macabeaid 4