29. Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf.
30. Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arian—fel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaen—ar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen.
31. Yr oedd mewn penbleth mawr; yna penderfynodd fynd i Persia i gasglu trethi'r taleithiau a chodi swm mawr o arian.
32. Gadawodd ar ei ôl Lysias, gŵr enwog o linach frenhinol, i fod yn gyfrifol am fuddiannau'r brenin o Afon Ewffrates hyd at ffiniau'r Aifft,
33. ac i ofalu am Antiochus ei fab hyd nes y byddai ef ei hun yn dychwelyd.
34. Trosglwyddodd hanner ei fyddinoedd iddo, ynghyd â'r eliffantod, a rhoddodd gyfarwyddyd iddo ynglŷn â'r cwbl yr oedd am iddo'i wneud, yn enwedig ynglŷn â thrigolion Jwdea a Jerwsalem.
35. Yr oedd i anfon byddin yn erbyn y rhain, i ddryllio a dinistrio cryfder Israel a gweddill Jerwsalem, a dileu'r cof amdanynt o'r lle.
36. Yr oedd hefyd i osod estroniaid yn eu holl diriogaeth, a rhannu eu gwlad i'r rheini drwy goelbrennau.
37. Yna cymerodd y brenin yr hanner o'i fyddin a oedd yn weddill, ac ymadawodd o Antiochia, ei brif ddinas, yn y flwyddyn 147. Croesodd Afon Ewffrates ac aeth trwy daleithiau'r dwyrain.
38. Dewisodd Lysias ddynion cryf o blith Cyfeillion y Brenin, sef Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor a Gorgias,
39. ac anfonodd gyda hwy ddeugain mil o wŷr traed a saith mil o wŷr meirch i fynd i wlad Jwda i'w dinistrio hi yn ôl gorchymyn y brenin.
40. Ymadawsant felly gyda'u holl lu, a daethant a gwersyllu ger Emaus, ar y gwastatir.
41. A phan glywodd masnachwyr y dalaith y sôn amdanynt, cymerasant swm enfawr o arian ac aur, ynghyd â llyffetheiriau, a daethant i'r gwersyll i brynu plant Israel yn gaethweision. Ymunodd byddin o Syria ac o wlad y Philistiaid â hwy.