21. ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau.
22. Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.”
23. Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.
24. Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.
25. Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.
26. Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.
27. Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn.
28. Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid.
29. Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf.
30. Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arian—fel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaen—ar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen.
31. Yr oedd mewn penbleth mawr; yna penderfynodd fynd i Persia i gasglu trethi'r taleithiau a chodi swm mawr o arian.