1 Macabeaid 2:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail;lladdwyd ei babanod yn ei heolydd,a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.

10. Pa genedl na feddiannodd ei phalasau hi,ac na wnaeth hi'n ysbail?

11. Anrheithiwyd ei holl harddwch hi,ac o fod yn rhydd, aeth yn gaethferch.

12. Ac wele, ein cysegr a'n ceindera'n gogoniant wedi eu troi'n ddiffeithwch;y Cenhedloedd a'u halogodd.

13. Pa fudd yw i ni bellach ddal yn fyw?”

14. A rhwygodd Matathias a'i feibion eu dillad; gwisgasant sachliain a galaru'n chwerw.

15. Yna daeth swyddogion y brenin, a oedd yn gorfodi'r bobl i gefnu ar eu crefydd, i dref Modin i beri iddynt aberthu.

16. Aeth llawer o bobl Israel atynt; a daeth Matathias a'i feibion ynghyd hefyd.

1 Macabeaid 2