1 Macabeaid 2:55-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

55. Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

58. Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.

59. Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.

60. Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.

61. Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.

1 Macabeaid 2