1 Macabeaid 2:45-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr,

46. a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel.

47. Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo.

48. Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.

1 Macabeaid 2