26. Felly dangosodd ei sêl dros y gyfraith, fel y gwnaeth Phinees pan laddodd Sambri fab Salom.
27. Yna gwaeddodd Matathias yn y dref â llais uchel: “Pob un sy'n selog drosy gyfraith ac sydd am gadw'r cyfamod, deued ar fy ôl i.”
28. A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.
29. Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid,
30. oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt.
31. Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.
32. Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.
33. A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”
34. Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”
35. Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt.
36. Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt.