1 Macabeaid 2:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ond atebodd Matathias â llais uchel: “Er bod yr holl genhedloedd sydd dan lywodraeth y brenin yn gwrando arno, ac yn cefnu bob un ar grefydd eu hynafiaid, ac yn cytuno â'i orchmynion,

20. eto yr wyf fi a'm brodyr am ddilyn llwybr cyfamod ein hynafiaid.

21. Na ato Duw i ni gefnu ar y gyfraith a'i hordeiniadau.

22. Nid ydym ni am ufuddhau i orchmynion y brenin, trwy wyro oddi wrth ein crefydd i'r dde nac i'r chwith.”

23. Cyn gynted ag y peidiodd â llefaru'r geiriau hyn, daeth rhyw Iddew ymlaen yng ngolwg pawb, i aberthu ar yr allor yn Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.

1 Macabeaid 2