3. Bellach yr wyf fi wedi heneiddio, ond trwy drugaredd yr ydych chwi ym mlodau eich dyddiau. Cymerwch chwi fy lle i a'm brawd; ewch allan ac ymladd dros ein cenedl; a boed cymorth y nef gyda chwi.”
4. Detholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr a gwŷr meirch, ac aethant yn erbyn Cendebeus, a bwrw'r nos yn Modin.
5. Codasant yn fore a symud i'r gwastatir; a dyma lu mawr, yn wŷr traed a gwŷr meirch, yn dod i'w cyfarfod. Yr oedd ceunant yn eu gwahanu,
6. a gwersyllodd Ioan a'i filwyr gyferbyn â'r gelyn. Pan welodd Ioan fod y milwyr yn ofni croesi'r ceunant, croesodd ef ei hun yn gyntaf. O'i weld, croesodd ei wŷr ar ei ôl.
7. Rhannodd Ioan ei filwyr, gyda'r gwŷr meirch yng nghanol y gwŷr traed; oherwydd yr oedd gwŷr meirch y gelyn yn lluosog iawn.
8. Canwyd yr utgyrn, a gyrrwyd Cendebeus a'i fyddin ar ffo; syrthiodd llawer ohonynt, wedi eu clwyfo'n angheuol, a ffoes y gweddill i'r amddiffynfa.
9. Dyna'r pryd y clwyfwyd Jwdas brawd Ioan. Ymlidiodd Ioan hwy, hyd nes i Cendebeus gyrraedd Cedron, y dref yr oedd wedi ei hadeiladu.
10. Ffodd y gelyn i'r tyrau sydd ym meysydd Asotus, a llosgodd yntau'r dref â thân. Syrthiodd tua dwy fil o wŷr y gelyn; yna dychwelodd Ioan i Jwdea mewn heddwch.
11. Yr oedd Ptolemeus fab Abwbus wedi ei benodi'n llywodraethwr ar wastatir Jericho. Yr oedd ganddo lawer o arian ac aur,
12. oherwydd ef oedd mab-yng-nghyfraith yr archoffeiriad.