10. Ffodd y gelyn i'r tyrau sydd ym meysydd Asotus, a llosgodd yntau'r dref â thân. Syrthiodd tua dwy fil o wŷr y gelyn; yna dychwelodd Ioan i Jwdea mewn heddwch.
11. Yr oedd Ptolemeus fab Abwbus wedi ei benodi'n llywodraethwr ar wastatir Jericho. Yr oedd ganddo lawer o arian ac aur,
12. oherwydd ef oedd mab-yng-nghyfraith yr archoffeiriad.
13. Ond aeth yn rhy uchelgeisiol, a chwennych meddiannu'r wlad. Cynllwyniodd yn ddichellgar yn erbyn Simon a'i feibion, i'w lladd.
14. Tra oedd Simon yn ymweld â threfi'r wlad i ofalu am eu buddiannau, daeth ef a'i feibion Matathias a Jwdas i lawr i Jericho yn y flwyddyn 177, yn yr unfed mis ar ddeg, sef mis Sabat.
15. Derbyniodd mab Abwbus hwy yn ddichellgar i'r amddiffynfa a elwir Doc, a oedd wedi ei hadeiladu ganddo, a gwnaeth wledd fawr iddynt. Cuddiodd wŷr yno,
16. a phan oedd Simon a'i feibion wedi yfed yn helaeth cododd Ptolemeus a'i wŷr ac ymarfogi a mynd i mewn i neuadd y wledd, a'i ladd ef a'i ddau fab a rhai o'i weision.
17. Gwnaeth anfadwaith mawr, gan dalu drwg am dda.
18. Ysgrifennodd Ptolemeus yr hanes hwn a'i anfon at y brenin, er mwyn iddo ef anfon byddin ato i'w gynorthwyo, a throsglwyddo'r wlad a'i threfi i'w ddwylo.