1 Macabeaid 15:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Gan hynny yr wyf yn awr yn cadarnhau i ti bob gollyngdod oddi wrth drethi a ganiatawyd iti gan y brehinoedd a fu o'm blaen i, ynghyd ag unrhyw daliadau eraill a ddilewyd ganddynt.

6. Yr wyf yn rhoi caniatâd i ti fathu dy arian priod dy hun, i fod yn arian cyfredol yn dy wlad.

7. Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.

8. Hefyd caiff pob dyled sydd, neu a fydd, yn ddyledus i'r drysorfa frenhinol ei dileu, yn awr a hyd byth.

1 Macabeaid 15