2. Yr oedd ei gynnwys fel a ganlyn:“Y Brenin Antiochus at Simon, archoffeiriad a llywodraethwr, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.
3. Yn gymaint ag i ryw ddihirod drawsfeddiannu teyrnas ein hynafiaid, y mae yn fy mryd hawlio'r deyrnas yn ôl, er mwyn ei hadfer i'w chyflwr blaenorol. Cesglais fyddin luosog a darperais longau rhyfel.
4. Fy mwriad yw glanio yn y wlad, er mwyn ymosod ar y rheini a anrheithiodd ein gwlad a difrodi trefi lawer yn fy nheyrnas.
5. Gan hynny yr wyf yn awr yn cadarnhau i ti bob gollyngdod oddi wrth drethi a ganiatawyd iti gan y brehinoedd a fu o'm blaen i, ynghyd ag unrhyw daliadau eraill a ddilewyd ganddynt.
6. Yr wyf yn rhoi caniatâd i ti fathu dy arian priod dy hun, i fod yn arian cyfredol yn dy wlad.
7. Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.