1 Macabeaid 15:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.

18. Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.

19. Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.

20. Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.

21. Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”

22. Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,

23. at Sampsames ac at y Spartiaid, yn ogystal ag i'r holl leoedd canlynol: Delos, Myndos, Sicyon, Caria, Samos, Pamffylia, Lycia, Halicarnassus, Rhodos, Phaselis, Cos, Side, Aradus, Gortuna, Cnidus, Cyprus a Cyrene.

24. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.

25. Gwersyllodd y Brenin Antiochus yn erbyn Dor yr ail waith, a dwyn cyrchoedd arni yn barhaus. A chan godi peiriannau rhyfel gwarchaeodd ar Tryffo, fel na ellid mynd i mewn nac allan.

1 Macabeaid 15