1 Macabeaid 15:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.

18. Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.

19. Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.

1 Macabeaid 15