1 Macabeaid 15:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Oherwydd gwyddai fod drygau wedi disgyn arno, a bod y lluoedd wedi cefnu arno.

13. Gwersyllodd Antiochus yn erbyn Dor, a chydag ef gant ac ugain o filoedd o ryfelwyr ac wyth mil o wŷr meirch.

14. Amgylchynodd y dref, ac ymunodd y llongau yn y gwarchae o'r môr. Felly gorthrymodd y dref o'r tir a'r môr, heb ganiatáu i neb fynd i mewn nac allan.

15. Daeth Nwmenius a'r gwŷr oedd gydag ef o Rufain, gan ddwyn llythyr at y brenhinoedd a'r gwledydd; a'r neges ganlynol wedi ei hysgrifennu ynddo:

16. “Lwcius, Conswl y Rhufeiniaid, at y Brenin Ptolemeus, cyfarchion.

1 Macabeaid 15