1 Macabeaid 14:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Yn ei ddyddiau ef bu cymaint o lwyddiant dan ei law fel y gyrrwyd y Cenhedloedd allan o'u gwlad, ynghyd â'r rhai yn ninas Dafydd yn Jerwsalem a oedd wedi codi caer iddynt eu hunain. Oddi yno byddent yn mynd allan ac yn halogi popeth o amgylch y cysegr, a gwneud niwed mawr i'w burdeb.

37. Rhoes Simon Iddewon i drigo yn y gaer, a'i chadarnhau er diogelwch y wlad a'r ddinas, a chodi muriau Jerwsalem yn uwch.

38. O ganlyniad cadarnhaodd y Brenin Demetrius ef yn swydd yr archoffeiriad,

39. a'i wneud yn un o'i Gyfeillion, gan roi anrhydedd mawr iddo.

40. Oherwydd yr oedd wedi clywed bod y Rhufeiniaid yn cydnabod yr Iddewon fel cyfeillion a chynghreiriaid a brodyr, a'u bod wedi mynd allan i dderbyn mewn rhwysg genhadau Simon.

41. “Gwelodd yr Iddewon a'r offeiriaid yn dda benodi Simon yn arweinydd ac archoffeiriad iddynt am byth, nes y byddai proffwyd ffyddlon yn codi.

1 Macabeaid 14