31. Cynllwyniodd eu gelynion i oresgyn eu gwlad ac i ymosod ar eu cysegr.
32. Yna cododd Simon ac ymladd dros ei genedl. Gwariodd lawer o'i arian ei hun ar arfogi rhyfelwyr ei genedl a rhoi cyflog iddynt.
33. Cadarnhaodd drefi Jwdea, a Bethswra yng nghyffiniau Jwdea, lle gynt yr oedd arfau'r gelynion, a gosododd warchodlu o Iddewon yno.
34. Cadarnhaodd hefyd Jopa ar lan y môr, a Gasara yng nghyffiniau Asotus, lle gynt y trigai'r gelynion. Rhoes Iddewon i drigo yno, a gosod yn y trefi bopeth angenrheidiol er eu hadfer.
35. Pan welodd y bobl deyrngarwch Simon, a'i fwriad i ennill bri i'w genedl, penodasant ef yn arweinydd ac yn archoffeiriad iddynt, i'w gydnabod am iddo wneud yr holl bethau hyn, am iddo ymddwyn yn gyfiawn, a pharhau'n deyrngar i'w genedl, ac am iddo ym mhob modd geisio dyrchafu ei bobl.
36. Yn ei ddyddiau ef bu cymaint o lwyddiant dan ei law fel y gyrrwyd y Cenhedloedd allan o'u gwlad, ynghyd â'r rhai yn ninas Dafydd yn Jerwsalem a oedd wedi codi caer iddynt eu hunain. Oddi yno byddent yn mynd allan ac yn halogi popeth o amgylch y cysegr, a gwneud niwed mawr i'w burdeb.
37. Rhoes Simon Iddewon i drigo yn y gaer, a'i chadarnhau er diogelwch y wlad a'r ddinas, a chodi muriau Jerwsalem yn uwch.