19. Darllenwyd hwn gerbron y gynulleidfa yn Jerwsalem.
20. Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd y Spartiaid:“Llywodraethwyr a dinas y Spartiaid at yr archoffeiriad Simon, ac at yr henuriaid a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, ein brodyr, cyfarchion.
21. Mynegwyd wrthym am eich bri a'ch anrhydedd gan y cenhadau a anfonwyd at ein pobl, a pharodd eu hymweliad lawenydd mawr inni.
22. Ysgrifenasom eu hadroddiad yn y cofnodion cyhoeddus fel a ganlyn: ‘Daeth Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, cenhadau yr Iddewon, atom i adnewyddu cytundeb eu cyfeillgarwch â ni.
23. Bu'n dda gan y bobl groesawu'r gwŷr yn anrhydeddus, a gosod copi o'u hymadroddion yn yr archifau cyhoeddus, iddynt fod ar gof a chadw gan y Spartiaid. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.’ ”
24. Wedi hyn anfonodd Simon Nwmenius i Rufain gyda tharian fawr o aur, gwerth mil o ddarnau arian, er mwyn cadarnhau'r cynghrair â hwy.
25. Pan glywodd y bobl y geiriau hyn dywedasant, “Pa ddiolch a rown i Simon ac i'w feibion?
26. Oherwydd safodd yn gadarn, ef a'i frodyr a thŷ ei dad, a gyrru ymaith elynion Israel oddi wrthynt, ac ennill ei rhyddid i'r genedl.” Felly gwnaethant arysgrif ar lechau pres, a gosod y rheini ar golofnau ar Fynydd Seion.
27. Dyma gopi o'r arysgrif: “Ar y deunawfed dydd o fis Elwl yn y flwyddyn 172, sef y drydedd flwyddyn i Simon fel archoffeiriad, yn Asaramel,
28. mewn cynulliad mawr o offeiriaid a phobl, o lywodraethwyr y genedl a henuriaid y wlad, gwnaethpwyd yn hysbys i ni yr hyn a ganlyn.
29. Yn gymaint â bod rhyfeloedd wedi eu hymladd yn aml yn y wlad, fe'u gosododd Simon fab Matathias, offeiriad o feibion Joarib, a'i frodyr, eu hunain mewn perygl, a sefyll yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn diogelu eu cysegr a'r gyfraith, gan ddwyn bri mawr i'w cenedl.